Sgwrs:Gwledydd y byd
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Ceir amryw ffyrdd o sillafu enwau gwledydd yn Gymraeg. Mae’r Atlas Cymraeg (1976, Golygydd Dafydd Orwig, Cynllun Gwerslyfrau ac Adnoddau Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru) yn dilyn y sillafiad yn y wlad ei hun (yn yr orgraff Rufeinig) os nad oes enw Cymraeg cyfarwydd eisioes yn bod, e.e. yr Aifft. Mae Geiriadur yr Academi (1995, Gwasg Prifysgol Cymru) yn ysgrifennu enwau gwledydd yn ôl sain y llythrennau yn ôl yr wyddor Gymraeg, lle bo hynny’n bosib, e.e. Ffiji yn hytrach na Fiji.
Er mwyn rhoi dewis i’r darllenwyr gael edrych ar y rhestr yn ôl y sillafiad y maent yn fwyaf cyfarwydd ag ef rwy’n cynnig creu dwy restr o Wledydd y Byd, wedi eu cyfeirio at ei gilydd. Bydd y rhestr bresennol yn aros o dan y teitl ‘Gwledydd y Byd’. Byddai’r ail restr yn cael y teitl ‘Gwledydd y Byd – patrwm Geiriadur yr Academi’.
Byddai pwy bynnag sy’n creu erthygl ar unrhyw wlad yn rhydd i ddefnyddio pa bynnag sillafiad y mae’n gyfarwydd ag ef, ac o dipyn i beth byddem yn creu tudalennau ailgyfeirio o’r sillafiad amgen, fel sydd yn digwydd eisioes.
(Since there are several ways of spelling the names of countries in Welsh I propose creating two lists of countries, following the two main different spelling patterns, cross-referenced to each other. Re-direct pages can be set up from the alternative spelling to the spelling used in the country article, as is already happening.) Lloffiwr 20:07, 1 Medi 2005 (UTC)
- Dw i'n cofio trafodaeth ar sillafiad enwau gwledydd, ardaloedd a lleoliadau daearyddol estron eraill rhyw flwyddyn neu fwy yn ôl.
- Yn bersonol rwyn credu bod cysindeb yn bwysig a cy dylid dilyn canllawiau Yr Atlas Cymraeg Newydd 1999 Gareth Jones
- 1 Lle bo enw traddodiadol Cymraeg ei ddefnyddio.
- 2. Cymreigio ambell enw neu ran o enw.
- 3 Lle nad oes enw Cymraeg nac ymgais i Gymreigio'r enw a gwyddor Rufeinig cadw'r sillafiad cywir e.e.Mexico. Os gwyddor anrufeinig cadw'r fersiwn ryngwladol a arddelir gan y gwledydd e.e. Afghanistan, Guwait.
- Byddai cadw at y ffurfiau a ddefnyddir yn yr Atlas Newydd yn fy marn i yn synhwyrol, yn sicrhau cysondeb ac o gymorth i ddisgyblion ysgol ac ati a fydd gobeithio rhyw ddydd yn defnyddio Wikipedia i ymchwilio ar gyfer eu gwaith cartref ac ati. Dyfrig 10:54, 2 Medi 2005 (UTC)
-
- Diolch am y sylwadau. Os cadw at un patrwm sillafu oni fyddai'n well egluro hyn i'r darllenwyr fel nad oes gormod o altro ar yr enwau yn y rhestr, gan rai nad sy'n gwybod y cefndir (roedd Sudan ar y rhestr deirgwaith mewn gwahanol sillafiad)? Dyma awgrym ar eglurhad:
Ceir amryw ffyrdd o sillafu enwau gwledydd yn Gymraeg. Mae’r Atlas Cymraeg Newydd (1999, Golygydd Gareth Jones) yn dilyn y sillafiad yn y wlad ei hun (neu’r fersiwn ryngwladol yn yr orgraff Rufeining a arddelir gan y gwledydd, e.e. Kuwait) os nad oes enw Cymraeg cyfarwydd eisioes yn bod, e.e. yr Aifft. Mae Geiriadur yr Academi (1995, Gwasg Prifysgol Cymru) yn ysgrifennu enwau gwledydd yn ôl sain y llythrennau yn ôl yr wyddor Gymraeg, lle bo hynny’n bosib, e.e. Ffiji yn hytrach na Fiji.
Mae’r rhestr isod yn dilyn patrwm yr Atlas Cymraeg. O’r rhestr hon y ceir teitlau’r erthyglau ar y gwledydd. Ymddengys sillafiadau amgen y wlad yn yr erthygl. Lloffiwr 19:47, 2 Medi 2005 (UTC)