Geirfa coffi
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Dyma rhestr o eiriau a thermau a ddefnyddir i ddisgrifio gwahanol mathau o goffi.
A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I J L Ll M N O P Ph R Rh S T Th U W Y |
[golygu] A
- Americano : espresso gyda phiser o ddŵr poeth
- Aromatizzato - caffè latte aromatizzato : espresso gyda sudd o unrhyw sawr, llaeth poeth a llaeth ewinnol ar ei ben
[golygu] B
- Brûlot - café brûlot : gyda brandi a pherlysiau
[golygu] C
- Café / Café express / Café noir : espresso yn Ffrangeg
- Calva - café calva : espresso a gwydr o Calvados
- Cappuccino : espresso gyda llaeth poeth ewinnol a taenelliad o bowdwr coco (i'w yfed yn y bore yn unig)
- Cappuccio : cappuccino mawr
- Carameleon : Ychydig o lemonêd, ychydig o driagl caramel a choffi wedi decaffeineiddio gyda rhew
- Coffi gwyn : gyda llaeth oer
- Coffi gwyrdd : ffa coffi heb eu rhostio. (fel hyn fe fydd coffi yn cael ei allforio / mewnforio)
- Coffi rhew : gyda thriagl melyn a rhew
- Complet - café complet : brecwast cyfandirol
- Corretto : espresso gyda diferyn o wirod ynddo
- Corretto grappa : espresso gyda diferyn o grappa ynddo
- Crema : ewin parhaus lliw gafrewig sy ar wyneb coffi da.
- Crème - café crème : espresso gyda hufen neu macchiato freddo *Doppio : espresso ddwbwl
[golygu] E
- Espresso : (Eidaleg =wedi ei wasgu allan) coffi bach du
[golygu] F
- Flat white : (Awstralia) coffi gwyn
- Flavoured coffee : (Saesneg) caffè latte aromatizzato
- Frappé : coffi wedi corddi gyda hufen iâ a dŵr barlys gyda rhew (o wlad Groeg yn wreiddiol)
- Freddo - caffè freddo shakerato : coffi oer wedi ei ysgwyd (gellir ychwanegu gwirod neu fanila)
[golygu] G
- Grande (café) crème : café au lait
- Granita di caffè con panna : coffi yn llawn naddion rhew gyda chantilly (hufen melus wedi corddi) ar ei ben
[golygu] H
- Hag - Caffè Hag : coffi wedi decaffeineiddio
[golygu] I
- Irish coffee : gyda wisgi a hufen
[golygu] J
- Java : coffi gyda siocled poeth a chantilly (hufen melys wedi corddi) ar ei ben
[golygu] L
- lait - café au lait : gyda llaeth poeth
- Large cappuccino : (yn Awstralia) cappuccio
- latte - caffè (e) latte : llaeth poeth gyda espresso a llaeth ewinnol ar ei ben (i frecwast)
- Liégeois : hufen iâ gyda choffi rhew arno a chantilly (hufen melys wedi corddi) ar ei ben
- Limone - caffè con limone : coffi gyda lemon
- Long - café long : espresso gyda rhagor o ddŵr poeth wedi wasgu drwy'r hidlydd
- Lungo - caffè lungo : espresso gyda rhagor o ddŵr poeth wedi wasgu drwy'r hidlydd
[golygu] M
- Macchiato caldo : espresso gyda diferyn o laeth poeth
- Macchiato freddo : espresso gyda diferyn o laeth oer
- Maroccino : espresso gyda llaeth poeth ewinnol
- Moca : y coffi gorau, o Al Mukha, porthladd masnachwyr coffi yn Yemen
- Moca pot : gwneuthurwr coffi "Napolitana" neu percoladur
[golygu] N
- Noisette : (yn Ffrainc) macchiato
[golygu] R
- Ristretto / Caffè stretto : espresso bach cryf
- Romana - caffè alla romana : coffi mewn gwydr
[golygu] S
- Salsa fanila : coffi gyda ychydig o sudd fanila, dŵr mwyn eferw a rhew
- Shakerato - caffè freddo shakerato : coffi oer wedi ei ysgwyd (gellir ychwanegu gwirod neu fanila)
[golygu] T
- tazza fredda - caffè in tazza fredda : coffi mewn cwpan oer
[golygu] V
- Viennois : coffi a chantilly (hufen melys wedi corddi) ar ei ben