Effesus
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Hen ddinas Rufeinig a thref bresennol yn ne-orllewin Twrci yw Effesus (neu Ephesus neu Ephessos).
Fe'i sefydlwyd gan y Groegiaid ar arfordir Ionia yn Asia Leiaf ac yn fuan daeth yn ddinas gyfoethog a flodeuai oherwydd ei safle manteisiol ar gyfer masnach. Roedd hi'n ganolfan grefyddol bwysig yn ogystal, yn arbennig ar gyfer cwlt y dduwies Artemis (Lladin: Diana); roedd Teml Artemis yn Effesus yn un o Saith Rhyfeddod yr Hen Fyd.
Cipiwyd y ddinas gan y brenin Croesus o Lydia yn y flwyddyn 550 CC. Parahaodd Effesus i ffynnu dan Alecsandr Mawr o Facedon a'r Ymerodraeth Bersiaidd. Erbyn i'r Rhufeiniaid ei hymgorffori yn eu hymerodraeth dim ond Alecsandria yn yr Aifft oedd yn medru cystadlu ag Effesus fel canolfan fasnach.
Tua diwedd hanner cyntaf y ganrif gyntaf ymwelodd Sant Paul ag Effesus. Un o lyfrau'r Testament Newydd yn y Beibl yw Llythyr Paul at yr Effesiaid.
Cafodd ei difrodi gan y Gothiaid yn OC 262 a dirywio fu ei hanes wedi hynny.
Yn y bryniau gerllaw'r ddinas mae Tŷ'r Forwyn Fair yn sefyll; dywedir iddi dreulio ei dyddiau olaf yn Effesus.