Cynog Dafis
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Enillodd Cynog Glyndwr Dafis (ganwyd 1 Chwefror, 1939) Etholaeth Sir Aberteifi a Gogledd Penfro i Blaid Cymru a'r Blaid Werdd ar y cyd yn Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig 1992.
Yn 1999 daeth yn aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru dros etholaeth rhestr Canol a Gorllewin Cymru. Ymddiswyddodd fel aelod seneddol yn 2000, ac ymddeolodd o'r Cynulliad yn 2003.
Cydnabyddir ef fel un o brif ffurfiwr polisi Plaid Cymru yn y cyfnod hyn.