Cymdeithas Dafydd ap Gwilym
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Cymdeithas Dafydd ap Gwilym yw cymdeithas Gymraeg Prifysgol Rhydychen.
Cymdeithas Gymraeg yw hi, yn hytrach na Chymreig fel ei chwaer-gymdeithas, Cymdeithas y Mabinogi yng Nghaergrawnt.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
Sefydlwyd y Gymdeithas yn 1886, sy’n ei gwneud y gymdeithas hynaf ym Mhrifysgol Rhydychen, ar wahân i gymdeithas yr Undeb. Adwaenir ar lafer i’w haelodau fel “Y Dafydd”.
Ym mysg yr aelodau sylfaenol oedd O. M. Edwards a John Morris-Jones.
[golygu] Traddodiadau
Enwyd y Gymdeithas ar ôl y bardd Dafydd ap Gwilym, a bu’n draddodiad i bob cyfarfod gychwyn gyda darlleniad o’i waith gan y Caplan, a thrafodaeth arno.
‘Roedd gan y Gymdeithas rhai defodau ffurfiol a swyddi gyda theitlau mawreddog, er mae y bwriadwyd y rhain i fod yn eironig. Erbyn heddiw cadwyd y teitl Caplan ar gyfer y cadeirydd, a chadwyd swydd mawreddog yr Archarogldarthydd.
Bu’n draddodiad ar un adeg i aelodau a chyn-aelodau’r gymdeithas gyfarfod yn flynyddol ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol.
![CYMDEITHAS DAFYDD AP GWILYM, EISTEDDFOD GENEDLAETHOL DINBYCH, 1939 Rhes Flaen (chwith i'r dde) G.O. Williams, T.I. Ellis, P. Macaulay Owen, Evan J. Jones, Hywel Davies, Jeremiah Williams, B.B. Thomas,J. Lloyd-Jones, T.J. Rowlands, G.A. Edwards, D. J. Lewis, C. Wynne Griffith, J. Williams-Hughes, Griffith Rees, T.J. Jones Ail Res (de i'r chwith): J. Edwards, R.H. Evans, D.J. Davies, J.H. Williams, R.I. Aaron, D. M. Jones, E. Pryce Jones, Dewi W. Powell, H.V. Morris-Jones, H. Williams, M. Elis-Williams, A. Tudno Williams, J.H. Griffith Cefn (chwith i'r dde): Llewelyn Jones, D. J. Williams, T. Meurig Wynne, H. Winter Jones, D.J. Samuel, E. Goronwy Owen, M. Hughes-Thomas, J.E. Davies, H.D. Lewis, G.R. Evans, I. Oswy Davies. Dim llawer o fenywod.](../../../upload/shared/thumb/a/a4/Dafyddapgwilym1939.jpg/600px-Dafyddapgwilym1939.jpg)
Rhes Flaen (chwith i'r dde) G.O. Williams, T.I. Ellis, P. Macaulay Owen, Evan J. Jones, Hywel Davies, Jeremiah Williams, B.B. Thomas,J. Lloyd-Jones, T.J. Rowlands, G.A. Edwards, D. J. Lewis, C. Wynne Griffith, J. Williams-Hughes, Griffith Rees, T.J. Jones
Ail Res (de i'r chwith): J. Edwards, R.H. Evans, D.J. Davies, J.H. Williams, R.I. Aaron, D. M. Jones, E. Pryce Jones, Dewi W. Powell, H.V. Morris-Jones, H. Williams, M. Elis-Williams, A. Tudno Williams, J.H. Griffith
Cefn (chwith i'r dde): Llewelyn Jones, D. J. Williams, T. Meurig Wynne, H. Winter Jones, D.J. Samuel, E. Goronwy Owen, M. Hughes-Thomas, J.E. Davies, H.D. Lewis, G.R. Evans, I. Oswy Davies. Dim llawer o fenywod.
[golygu] Llywyddion
Un o gymrodyr y Brifysgol sydd yn gwasanaethau fel Llywydd anrhydeddus ar y Gymdeithas:
· Syr John Rhys (1886-1919)
· Goronwy Edwards, (1919-1948)
· Syr Idris Foster, (1948-1978)
· D. Ellis-Evans
· Syr Rees Davies
· Robert Evans
[golygu] Rhai Cyn-Aelodau
· O. M. Edwards
· Ifan ab Owen Edwards
· Gwynfor Evans
· Bruce Griffiths
· W.J . Gruffydd
· Guto Harri
· R. Tudur Jones
· Rhodri Morgan
· John Morris-Jones
· Elan Clos Stephens y ferch gyntaf i fod yn aelod ac i fod yn Gaplan
[golygu] Cysylltiadau Allanol
[golygu] Cyfeirnodau
- Cofio’r Dafydd - Cymdeithas Dafydd ap Gwilym 1886 - 1986, gol. D. Ellis Evans ac R. Brinley Jones (1987).