Castell
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Castell (benthyciad o'r Lladin castellum Llydaweg Canol castell, Gwyddeleg Canol caisel. Lluosog Cestyll.) yn adeilad sydd wedi'i amddiffyn yn gryf.
Dros y canrifoedd newidiodd y cestyll o wneuthuriad pren i gestyll cerrig, ac yn ddiweddarach, o fod yn amddiffynfa i fod yn blas neu gartref. Bellach mae nhw wedi newid o fod yn adeiladau milwrol i fod yn henebion ac yn atyniadau twristiaidd.
Mae gwahanol fathau o gestyll wrth gwrs, megis Cestyll y Normaniaid a'r Cestyll Cymreig. Llefydd milwrol oedd cestyll yn y Canol Oesoedd, gyda waliau trwchus a thyredau uchel, a ffos o gwmpas - a llawer ohonyn nhw á mur o gwmpas y dref a reolwyd gan y castell a barbican, hefyd. I fynd fewn i'r castell, roedd rhaid mynd dros bont codi a thrwy borthdy cryf á chlwydi a phorthcwlis. Roedd carchar mewn llawer o'r cestyll.
Roedd y cestyll yn lle byw yn ogystal ag yn amddiffynfa. Roedd ward fewnol, llety, ystafoedd byw ac ystafelloedd cysgu, rhai ohonyn yn gyfforddus, cegin, bwtri i gadw gwîn neu gwrw, canolfan weinyddol a chapel. Roedd stablau ac ysguboriau i gadw bwyd i'r anifeiliaid. Ond y peth pwysicaf i gyd oedd ffynhonell ddŵr i'w cadw'n fyw adeg gwarchae. Gwarchae oedd un o'r bygythiadau gwaethaf i gastell a dyna pam yr oeddent yn ceisio bod mor hunangynhaliol a phosibl.
Roedd hi'n anodd i godi'r cestyll hyn o gofio eu bod yn codi'r cestyll mewn gwlad estron. Roedd rhaid cael gweithwyr a chrefftwyr o Loegr ac fe'i gorfodwyd i adael eu cartrefi yn Lloegr i weithio yng Nghymru am flynyddoedd.
Roedd rhaid codi llawer o arian i godi'r cestyll hefyd. Y goruchwilwyr oedd yn gofalu am yr ochr ariannol ac yn talu'r gweithwyr. Y pensaer oedd yn gyfrifol am gynllunio'r castell a ble i adeiladu. Y nesaf at y pensaer mewn pwysicrwydd oedd y saer maen. Roedd yn bwysig cael chwarel yn gyfleus i gael meini i'r muriau. Roeddent yn hollti'r cerrig yn y chwarel i arbed cludo cerrig diwerth heb eisiau. Roedd rhaid cael cerrig da a fyddai'n gorwedd yn esmwyth ar ei gilydd er mwyn gwneud y muriau allanol yn gadarn
[golygu] Cestyll Cymru
Cafodd nifer o gestyll eu codi gan y tywysogion Cymreig, yn arbennig yn y cyfnod rhwng yr 11eg ganrif a thrydydd chwarter y 13eg ganrif. Yn eu plith mae Castell Dolbadarn, Castell Dolwyddelan, Dinas Emrys, Castell y Bere, Castell Cricieth, Castell Carreg Cennen, Castell Dinefwr, Castell y Dryslwyn, a Castell Dinas Brân.
Adeiladwyd llawer o gestyll yng Nghymru yn y drydedd ganrif ar ddeg gan y Normaniaid a hefyd gan y Saeson, yn bennaf gan Edward I o Loegr, er mwyn cadarnhau ei goncwest, e.e. Castell Harlech, Castell Conwy a Chastell Caernarfon yng Ngwynedd, neu Castell Biwmares yn Ynys Môn a Chastell Rhuddlan yn y Berffeddwlad (Clwyd). Y rhain oedd y Cylch Haearn o gestyll o amgylch Gogledd Cymru.
Gweler Rhestr cestyll Cymru