Beti Cadwaladr
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Nyrs yn Rhyfel y Crimea oedd Beti Cadwaladr (1789 – 17 Gorffennaf 1860). Newidiodd ei henw i Elizabeth Davies pan oedd yn gweithio yn Lerpwl am nad oedd y Saeson yn gallu ynganu ei henw.
Yn 1854 a hi yn chwedeg pump blwydd oed, pendefynodd fynd yn nyrs i Ryfel y Crimea ar ôl darllen am ddioddefaint y milwyr yno. Roedd cannoedd o filwyr yn marw am nad oedd digon o nyrsys a meddygon ar gael.
Cyrhaeddodd Beti Cadwaladr ysbyty Scutari lle roedd Florence Nightingale yng ngofal y nyrsys. Gwrthododd Florence Nightingale gymorth Beti a'r nyrsys eraill a ddaeth drosodd, gan ddweud bod digon o nyrsys ar gael.
Roedd hi'n daith chwe niwrnod i'r milwyr clwyfedig ddod o'r Crimea, ac roedd Beti yn gweld hyn yn ffolineb llwyr. Fe benderfynodd fynd dros y mor i'r Crimea atynt. Ac aeth a nyrsys eraill gyda hi i ysbyty yn Balaclava. Gweithiodd Beti a'r lleill yn galed iawn mewn amgylchiadau anodd iawn. Yn wir o fewn blwyddyn yr oedd yn sâl ei hun, a bu rhaid iddi ddod adre at ei chwaer yn Llundain.
Buodd hi farw yn Llundain ar 17 Gorffennaf 1860 ond does neb yn gwybod ble y cafodd ei chladdu.