Ebooks, Audobooks and Classical Music from Liber Liber
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z





Web - Amazon

We provide Linux to the World


We support WINRAR [What is this] - [Download .exe file(s) for Windows]

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
SITEMAP
Audiobooks by Valerio Di Stefano: Single Download - Complete Download [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Alphabetical Download  [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Download Instructions

Make a donation: IBAN: IT36M0708677020000000008016 - BIC/SWIFT:  ICRAITRRU60 - VALERIO DI STEFANO or
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Arch y Cyfamod - Wicipedia

Arch y Cyfamod

Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.

Cludo'r Arch i'r Deml yn Jerusalem (Les Très Riches Heures du duc du Berry, Museé Condé, Chantilly)
Ehangwch
Cludo'r Arch i'r Deml yn Jerusalem (Les Très Riches Heures du duc du Berry, Museé Condé, Chantilly)

Yn ôl y traddodiadau Cristnogol ac Iddewig, cedwid gweddillion dwy lech Deng Air Duw, a roddwyd i Foses, yn Arch y Cyfamod.

Taflen Cynnwys

[golygu] Ei ffurf a'i symboliaeth

Ystyr y gair arch yw "cist neu flwch" (Lladin arca). Math ar gist o goed Sittim neu acasia ydoedd, yn ôl Llyfr Exodus (Ex. 25.10). Roedd yn oreuriedig ag aur ac yn cael eu cludo ar bolion oedd yn ffitio mewn pedair dolen ar ymyl yr arch.

Yn y litwrgiaid Cristnogol mae'r arch yn symbol o'r Forwyn Fair, am fod ei chorff (fel "arch" o gig a gwaed) wedi dwyn Iesu Grist, a roddodd gyfamod newydd i'r byd.

[golygu] Ei hanes

Gorchmynodd Duw i Foses ei gwneud er mwyn cymryd lle'r Llo Aur. Yn ogystal â'r llechi rhoddwyd ynddi bot o fanna a ffon Aaron. Roedd yn cael eu cludo gan yr Israeliaid o flaen eu byddin ac wrth deithio i Dir yr Addewid.

Yn yr Hen Destament mae'n cael ei galw'n Arch Iafe, Arch Cyfamod Iafe (Deut. 10.8, 31.26) ac yn Arch y Dystiolaeth (e.e. Ex. 25.16) yn y Pentateuch a'r llyfrau hanes cynnar.

Yn Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd dywedir mai ar orchymyn Solomon y dygwyd yr arch i'r deml newydd yng Nghaersalem, lle cafodd ei osod yn y cysegr sancteiddiaf, dan adenydd y ceriwbiaid (1 Bren. 8.7-7). Dawnsiodd y brenin Dafydd o'i blaen yn y deml.

Yn ôl traddodiad fe'i cludwyd i ffwrdd i Fabilon gan y brenin Nebuchodnesar pan gipiwyd Caersalem ganddo yn 586 C.C..

Ceir traddodiad bod Jeremiah wedi cuddio'r arch mewn ogof (II Mac. 2.4-8) lle bydd yn aros tan ddiwedd y byd.

[golygu] Cymru'r Oesoedd Canol

Ceir cyfeiriad at yr arch yn y gerdd ddarogan ddylanwadol "Yr Awdl Fraith", a briodolir i Daliesin, lle y'i gelwir arca ffedra:

Ef a gafas Salmon
Yn nhŵr Babilon
Holl gelfyddydion
Arca ffedra.

[golygu] Ethiopia

Yn Ethiopia mae hen draddodiad yn honni bod yr arch ar gadw yn Eglwys yr Arch yn Axum, yng ngogledd y wlad, ond nid yw ar ddangos i'r cyhoedd.

[golygu] Cyfeiriadau

  • Thomas Rees ac eraill (gol.), Y Geiriadur Beiblaidd, 2 gyfrol (Wrecsam, 1926)
  • J.C.J. Metford, Dictionary of Christian Lore and Legend (Llundain, 1983). ISBN 0500273731
Our "Network":

Project Gutenberg
https://gutenberg.classicistranieri.com

Encyclopaedia Britannica 1911
https://encyclopaediabritannica.classicistranieri.com

Librivox Audiobooks
https://librivox.classicistranieri.com

Linux Distributions
https://old.classicistranieri.com

Magnatune (MP3 Music)
https://magnatune.classicistranieri.com

Static Wikipedia (June 2008)
https://wikipedia.classicistranieri.com

Static Wikipedia (March 2008)
https://wikipedia2007.classicistranieri.com/mar2008/

Static Wikipedia (2007)
https://wikipedia2007.classicistranieri.com

Static Wikipedia (2006)
https://wikipedia2006.classicistranieri.com

Liber Liber
https://liberliber.classicistranieri.com

ZIM Files for Kiwix
https://zim.classicistranieri.com


Other Websites:

Bach - Goldberg Variations
https://www.goldbergvariations.org

Lazarillo de Tormes
https://www.lazarillodetormes.org

Madame Bovary
https://www.madamebovary.org

Il Fu Mattia Pascal
https://www.mattiapascal.it

The Voice in the Desert
https://www.thevoiceinthedesert.org

Confessione d'un amore fascista
https://www.amorefascista.it

Malinverno
https://www.malinverno.org

Debito formativo
https://www.debitoformativo.it

Adina Spire
https://www.adinaspire.com