Aragón
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
|
|||
Prifddinas | Zaragoza | ||
Arwynebedd – Cyfanswm – % o Sbaen |
Rhenc 4ydd 47 719 km² 9.4% |
||
Poblogaeth – Cyfanswm – % o Sbaen – Dwysedd |
Rhenc 11eg 1 217 514 2,9% 25.51/km² |
||
ISO 3166-2 | AR | ||
Arlywydd | Marcelino Iglesias Ricou (PSOE) | ||
Gobierno de Aragón |
Mae Aragón (Sbaeneg ac Aragoneg Aragón, Catalaneg Aragó) yn un o gymunedau ymreolaethol Sbaen. Gydag arwynebedd o 47,719 km² a phoblogaeth o 1,217,514 yn 2003. Nid un o'r cymunedau ymreolaethol mwyaf yw hi, ond mae wedi chwarae rhan bwysig yn hanes Sbaen.
[golygu] Iaith
Iaith draddodiadol yr ardal yw Aragoneg. Mae ei statws swyddogol yn isel, ac ni ddefnyddir hi at bwrpasau llywodraethol neu weinyddol. Heddiw mae tua 30,000 o bobl yn dal i siarad yr iaith. Iaith mwyafrif y trigolion a'r unig iaith swyddogol yw Sbaeneg (castellano). Siaredir Catalaneg mewn stribyn cul yn nwyrain Aragón (La Franja), er nad oes gan yr iaith unrhyw statws swyddogol o fewn Aragón. Cyn y cyfnod Rhufeinig ac yn ei ystod ef, siaredid iaith Geltaidd mewn llawer o ardaloedd Aragón, Celtibereg neu Hispano-Celteg. Ceir tystiolaeth am yr iaith Hispano-Celteg oddiwrth nifer o arysgrifau, yn enwedig o safle Botorrita ger Zaragoza.