Alan Turing
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mathemategydd, a rhesymegydd o Loegr oedd Alan Mathison Turing, OBE. Fe'i ganwyd ar 23 Mehefin, 1912, yn Llundain, a bu farw ar y 7 Mehefin, 1954.
Fe ddatblygodd cysyniad o'r enw peiriant Turing, sy'n ffurfioli'r hyn mae cyfrifiaduron yn gallu wneud. Yn ystod yr Ail Rhyfel Byd, roedd yn gweithio yn Bletchley Park, y ganolfan brydeinig am dorri'r codau a defnyddiwyd ar gyfer cyfathrebu milwrol. Dyfeisiodd sawl techneg o dorri codau Almaenig, gan gynnwys peiriant o'r enw y bombe oedd yn canfod dewisiadau peiriant Enigma.
Ar ol y rhyfel, bu'n gweithio yn Labordy Ffisegol Cenedlaethol, ac yna ym Mhrifysgol Manceinion lle'r oedd yn gweithio ar feddalwedd ar gyfer Mark I Manceinion, un o'r gwir-gyfrifiaduron cyntaf yn y byd.
Ym 1952, fe'i cafwyd yn euog o "weithredoedd anweddus dygn" wedi iddo gyfaddef cael perthynas rhywiol gyda dyn ym Manceinion. Fe'i rhoddwyd ar brofiannaeth prawf a'i gorfodi i dderbyn triniaeth hormonaidd.
Bu farw ar ol bwyta afal gyda cyanid ynddo. Tybia lawer mai hunanladdiad ydoedd.