Cyfandir
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae cyfandir yn ehangdir enfawr o dir. Maent yn cael eu diffinio gan ddaearyddiaeth gan amlaf, ond hefyd gan wleidyddiaeth (gweler daearwleidyddiaeth) a diwylliant. Fel arfer ym Mhrydain ceir saith cyfandir.
Mae gwyddonwyr yn credu mai lafa yn llifo i arwyneb y Ddaear o'r craidd tawdd wnaeth creu'r cyfandiroedd. Ar yr arwyneb, ymsolidodd y lafa i gramen, a wnaeth erydu'n gwaddodion trwy brosesau hindreuliad. Ffurfiodd, chwalodd ac ailffurfiodd y gwaddodion yma tro ar ôl tro, wedi'u heffeithio gan nwyon poeth yn codi o ganol y Ddaear. Ar ôl caledu, trodd y llwyfandiroedd gwaddodol oedd ar ôl yn y cyfandiroedd, sydd yn gorchuddio tua 30% o wyneb y Ddaear.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Dosbarthiad
Mae daearyddwyr, daearegwyr, llywodraethau, economegwyr, hanesyddion a phobl cyffredin i gyd yn dadlau dros ddosbarthiad cyfandiroedd, ac nid yw cymdeithas eto wedi penderfynu ar union ffiniau'r cyfandiroedd, neu hyd yn oed pa rhai sydd yn gyfandiroedd, a pha rhai i ddosbarthu fel uwchgyfandiroedd, isgyfandiroedd, microgyfandiroedd, ac ynysoedd. Yn draddodiadol ceir saith cyfandir, ond mae nifer dal yn uno Ewrop ac Asia a Gogledd a De America, yn dadlau am wledydd trawsgyfandirol (megis Rwsia a'r Aifft) ac yn cwestiynu ffiniau, statws ac hyd yn oed enw Awstralia/Awstralasia/Oceania. Mae'n debyg bod Antarctica yw'r unig gyfandir mae pawb yn cytuno arno.
Mae'r enw cyfandir ei hunain yn awgrymu taw pwnc daearyddol yw dosbarthiad cyfandiroedd, ond yn ddiweddar bu rhai yn galw am ailddosbarthiad cyfandiroedd am fyd mwy gwleidyddol (e.e. cefnogaeth am esgyniad (annhebygol) Canada i'r Undeb Ewropeaidd) neu am resymau hanesyddol (e.e. cynhwysiad gwledydd megis Iwerddon ac Angola yn yr Amerig).
[golygu] Modelau
Nid yw pawb yn cytuno sawl cyfandir sydd a beth mae nhw. Mae nifer o fodelau ar draws y byd:
Modelau | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
8 cyfandir: | Yr Antarctig | De America | Gogledd America | Canolbarth America | Ewrop | Asia | Affrica | Awstralasia |
7 cyfandir: | Yr Antarctig | De America |
|
Ewrop | Asia | Affrica | Awstralasia | |
6 chyfandir: | Yr Antarctig |
|
|
Asia | Affrica | Awstralasia | ||
6 chyfandir: | Yr Antarctig | De America |
|
|
Affrica | Awstralasia | ||
5 cyfandir: | Yr Antarctig |
|
|
Affrica | Awstralasia | |||
5 cyfandir: | Yr Antarctig | De America |
|
Affrica | Awstralasia | |||
5 cyfandir: | Yr Antarctig |
|
|
Affrica | Awstralasia | |||
4 cyfandir: | Yr Antarctig |
|
|
Awstralasia |
Dysgir y model 7-cyfandir yn China, rhannau o Orllewin Ewrop, a'r rhan fwyaf o wledydd Saesneg. Dysgir y model 6-chyfandir (un America) yn America Ladin, Iberia, a'r rhan fywaf o Orllewin Ewrop. Dysgir y model 6-chyfandir (Ewrasia) yn Rwsia, Dwyrain Ewrop, a Japan. Mae'n well gan y gymuned ddaearyddol y model hyn, gan fod Ewrop ac Asia yn yr un tir yn ddaearyddol. Mae rhai hanesyddwyr (megis Jared Diamond) yn defnyddio model 5-cyfandir lle gwahanir Gogledd Affrica o Affrica Is-Saharaidd a chynnwysir yn Ewrasia, tra bo eraill (megis Andre Gunder Frank) yn ffafrio'r model 4-cyfandir (Affrica-Ewrasia). Ni welir y model 5-cyfandir (Lawrasia) yn aml – dim ond am resymau diwydiannol neu ddaearegol (roedd Gogledd America ac Ewrasia yn un gyfandir blynyddoedd maith yn ôl).
[golygu] Mathau gwahanol o gyfandiroedd
[golygu] Uwchgyfandiroedd
Oherwydd symudiadau'r platiau, bu nifer o gyfandiroedd eraill trwy hanes y Ddaear, gyda siapiau cwbl wahanol i gyfandiroedd heddiw, ac mae o i fyny i ddaearegwyr i benderfynu beth oedd ffurfiau [yr eangdiroedd yma.
[golygu] Isgyfandiroedd
Rhanbarth mawr o gyfandir yw isgyfandir. Nid oes cydwelediad ar beth sy'n gwneud isgyfandir, ond fel arfer gwahanir isgyfandir o weddill y cyfandir gan rhyw tirffurf mawr neu nodwedd ddaearegol, megis cadwyn o fynyddoedd neu blât tectonig.
[golygu] Daearyddiaeth
Cyfandiroedd yn nhrefn eu harwynebedd | |
---|---|
cyfandir | arwynebedd (km²) |
Affrica-Ewrasia | 84 580 000 |
Lawrasia | 78 700 000 |
Ewrasia | 54 210 000 |
Asia | 43 810 000 |
Yr Amerig | 42 330 000 |
Affrica | 30 370 000 |
Gogledd America | 24 490 000 |
De America | 17 840 000 |
Antarctica | 13 720 000 |
Ewrop | 10 400 000 |
Awstralasia | 9 010 000 |
Awstralia | 8 470 000 |
Gwahaniaethir cyfandir o ynys neu orynys nid yn unig gan faint mwy ond hefyd gan strwythur a datblygiad daearegol. Mae'r ardal gyfandirol – sef yr holl tir uwchben lefel y môr – yn gorchuddio 29% o gyfanswm arwynebedd y Ddaear. Mae mwy na dau draean o arwynebedd y tir cyfandirol i ogledd y cyhydedd. Ar ben hynny, mae'r eangdiroedd cyfandirol yn cynnwys yr ysgafellau cyfandirol suddedig, sy'n goleddu o lannau cefnforol y cyfandiroedd i ddyfnderoedd o dua 183 m; ar dua'r pwynt yma mae'r plymiad mwy sydyn yn dechrau i'r ffos gefnforol a elwir yn y llethr cyfandirol. Os ystyrir yr ysgafellau cyfandirol, mae cyfanswm yr ardal gyfandirol yn cynyddu i 35% o arwynebedd y Ddaear. Mae ynysoedd sy'n sefyll ar ysgafell gyfandirol rhyw cyfandir yn cael eu hystyried fel rhan o'r cyfandir hwnnw. Mae enghreifftiau yn cynnwys Prydain Fawr ac Iwerddon yn Ewrop; Ynysfor Malei a Siapan yn Asia; Gini Newydd, Tasmania, a Seland Newydd yn Awstralasia; a'r Lasynys yng Ngogledd America.
[golygu] Daeareg
Yn naeareg, diffinir cyfandiroedd yn nhermau strwythur cramennol y Ddaear a phlatiau tectonig, yn hytrach nag arwynebau tir.
[golygu] Gweler hefyd
- Daeareg
- Daearyddiaeth
- Gwyddorau daear
- Isranbarth
- Platiau tectonig
- Tirffurf
- Ysgafell gyfandirol
Cyfandiroedd y Ddaear | ||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
||||||||||||||||||||||||||||
Affrica-Ewrasia |
Yr Amerig |
Ewrasia |
||||||||||||||||||||||||||
|
||||||||||||||||||||||||||||
Affrica |
Antarctica |
Asia |
Ewrop |
Gogledd America |
De America |
Oceania |
||||||||||||||||||||||
|
||||||||||||||||||||||||||||
Uwchgyfandiroedd daearegol : Gondwana · Lawrasia · Pangaea · Pannotia · Rodinia · Colwmbia · Kenorland · Ur · Vaalbara | ||||||||||||||||||||||||||||
|
Rhanbarthau'r Ddaear | |||
Yr Affrig | Canolbarth · De · Dwyrain · Gogledd · Gorllewin | ||
---|---|---|---|
Yr Amerig | Y Caribî · Canolbarth · De · Gogledd · Lladin | ||
Asia | Canolbarth · De · De Ddwyrain · De Orllewin · Dwyrain · Gogledd | ||
Ewrop | Canolbarth · De · Dwyrain · Gogledd · Gorllewin | ||
Oceania | Awstralia · Melanesia · Micronesia · Polynesia · Seland Newydd | ||
|
|||
Y Pegynau | Yr Arctig · Yr Antarctig | ||
Cefnforoedd | Arctig · De · India · Iwerydd · Tawel |