Wicipedia:Croeso, newydd-ddyfodiaid
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Croeso i'r Wicipedia Cymraeg!
Mae Wicipedia yn wyddoniadur sy'n cael ei ysgrifennu gan y darllenwyr eu hunain. Gall unrhywun, gan gynnwys chi, olygu unrhyw erthygl drwy glicio ar y botwm golygu sy'n ymddangos ar frig pob erthygl Wicipedia.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Pori Wicipedia
Er bod y Wicipedia Cymraeg yn fach o hyd o'i gymharu â fersiynau mewn ambell iaith arall, mae'r storfa o wybodaeth yn tyfu'n ddyddiol. Y ffordd orau i chwilio am bwnc yw trwy'r bocs ar ochr chwith y dudalen. Teipiwch eich testun yn y blwch a cliciwch ar Ewch. Os nad oes erthygl ar y pwnc hwnnw, daw sgrîn chwilio i fyny sy'n dangos pob man lle'r ymddengys y testun yn y gwyddoniadur.
Os ydych chi'n hoffi erthygl, beth am fynd i'r dudalen sgwrs (cliciwch ar sgwrs ar frig yr erthygl) a gadael nodyn yno (cliciwch ar golygu). Mae pawb yn hoffi ychydig o ganmoliaeth!
Efallai nad yw'r Wicipedia Cymraeg yn ateb eich cwestiwn. Os felly, ewch i'r desg gyfeirio a gadewch nodyn yno -- mae gennym griw o ymchwilwyr dawnus a fydd yn fwy na pharod i helpu!
[golygu] Golygu
Gall unrhywun olygu unrhyw dudalen ar y Wicipedia (hyd yn oed y dudalen hon!). Os oes angen newid rhywbeth yn yr erthygl, y cwbl sydd angen gwneud yw clicio ar y botwm golygu ar frig y dudalen. Am fwy o gymorth technegol am olygu tudalennau, ewch yma. Does dim rhaid i chi fod yn arbenigwr, na hyd yn oed mewngofnodi. Os yw'r posibilrwydd o sarnu erthyglau yn eich gofidio, gallwch fynd i'r blwch tywod i arbrofi. (Mae yna ambell dudalen pwysig sydd wedi'u amddiffyn: mae hyn yn golygu fod yn rhaid bod yn weinyddwr er mwyn eu newid.)
Os gwelwch gamgymeriad ffeithiol, gwall iaith, neu unrhywbeth arall sydd angen ei newid, golygwch â hyder! Bydd neb yn eich beirniadu am wneud camgymeriadau: mae wastad modd i chi, neu rywun arall, drwsio problemau sy'n codi.
- Dyfal donc a dyrr y garreg.
Ar y llaw arall, mae gan y Wicipedia ambell bolisi sydd yn bwysig i'w parchu. Yn benodol, mae'r polisi niwtraliaeth yn golygu y dylai pob erthygl fod yn hollol ddiduedd, trwy beidio â chefnogi na barnu ochr benodol mewn pynciau dadleuol. Efallai fod rhywun wedi newid eich cyfraniad i erthygl; edrychwch ar hanes y dudalen (cliciwch ar y botwm hanes ar frig y dudalen) neu'r dudalen sgwrs er mwyn darganfod rhesymau pam.
Mae pob cyfraniad i Wicipedia yn cael ei ryddhau o dan dermau'r Drwydded Dogfennaeth Rhydd GNU (GFDL), sy'n golygu y gall Wicipedia gael ei ddosrannu'n rhydd am byth (gweler Wicipedia:Hawlfraint).
Yn bennaf oll, mwynhewch!
[golygu] Creu cyfrif
Er fod unrhywun yn gallu cyfrannu i erthyglau Wicipedia, mae yna fanteision mewn cael cyfrif. Cliciwch ar mewngofnodi ar frig y dudalen er mwyn creu cyfrif newydd.
[golygu] Mwy o gwestiynau?
Gallwch gael cymorth pellach trwy fynd at y dudalen cymorth. Yn ogystal â hyn mae'r Caffi wedi'i sefydlu er mwyn i unrhywun ofyn cwestiynau neu gyhoeddi newyddion am y Wicipedia. Mae croeso i chi gyfrannu!