Yr Ail Ryfel Byd
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
- Gweler Ail Ryfel Byd Yng Nghymru am effaith y rhyfel ar Gymru.
Y rhyfel mwyaf eang a chostus mewn hanes yw'r Ail Ryfel Byd. Yn ystod y rhyfel hon cafodd tua 50 miliwn o bobl eu lladd. Roedd Prydain a'r Gymanwlad Brydeinig, Ffrainc, yr Unol Daleithiau, yr Undeb Sofietaidd a Tsieina ar y naill ochr a'r Almaen, yr Eidal a Siapan ar y llall. Prif ardaloedd y brwydro oedd Ewrop, Dwyrain Asia a'r Môr Tawel.
Dyma'r rhyfel gyntaf lle roedd awyrennau yn bwysig iawn. Yn wir dechreuodd y rhyfel pan ymosododd Adolf Hitler ar Wlad Pwyl trwy ei bomio. Daeth y rhyfel i ben pan ryddhaodd America fom atomig ar Nagasaki.
Yn ystod y rhyfel hon cafodd mwy o bobl nag erioed o'r blaen eu lladd mewn rhyfel. Y prif reswm dros hynny oedd graddfa rhyfel heb ei ail a rhwswm arall roedd bomio trefi yn ystod y rhyfel fel yr wnaeth hi'r Almaen yn erbyn Gwlad Pwyl a byddin y Cynghreiriaid yn erbyn yr Almaen. Cafodd llawer o bobl eu ladd mewn gwersylloedd difodi, hefyd.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Achos y Rhyfel
Roedd nifer o resymau am y rhyfel hon.
[golygu] Cytundeb Versailles
Roedd Cytundeb Versailles, a arwyddwyd d y Rhyfel Byd Cyntaf, wedi golygu bod yr Almaen wedi colli ei trefedigaethau, ac fe drosglwyddwyd nifer o'i thir i Ffrainc a Gwlad Pwyl ac nid oedd yr Almaen i gael ond byddin fach amddiffynol.
[golygu] Dirwasgiad
Bu dirwasgiad difrifol yn yr Almaen rhwng y ddwy ryfel byd.
[golygu] Twf y Natsïaid
Roedd telerau llym Cytundeb Versailles a'r trafferddion economaidd wedi gwneud i'r Almaenwyr deimlo nad oeddent yn cael chwarae teg. Rhoddodd hyn hwb i dyfiant y Blaid Natsïaidd. Daeth Adolf Hitler ei harweinydd yn Ganghellor yr Almaen ar y 30 Ionawr 1933 ac mewn ffaith yn unben gyda marwolaeth Llywydd Paul van Hinderberg.
[golygu] Dechrau'r Rhyfel
Nid oes cytundeb ar union ddyddiad dechrau'r rhyfel. Y dyddiad mwyaf cyffredin a ddebynnir yw 1 Medi 1939 pan oresgynnodd yr Almaen Wlad Pwyl, gyda Prydain a Ffrainc yn cyhoeddi rhyfel ddau ddiwrnod yn ddiweddarach. Mae eraill yn crybwyll y 7 Gorffennaf 1937 fel dyddiad dechrau'r rhyfel pan oresgynnodd Siapan China ac eraill wedyn yn nodi Mawrth 1939 ar adeg yr aeth byddinoedd Hitler fewn i Prague.
[golygu] Y Rhyfel yn Ewrop
Dechreuodd y rhyfel yn Ewrop ar 1 medi 1939 wrth i'r Almaen ymosod ar Wlad Pwyl a gwnaeth Ffrainc a'r Deyrnas Unedig ddatgan rhyfel o fewn dau ddiwrnod ar y 3 Medi 1939 Daeth y rhyfel i ben yn Ewrop ar 18 Mai 1945 pan ildiodd yr Almaen.
[golygu] Y Rhyfel yn y Môr Tawel ac Asia
Yn Asia, dechreuodd y rhyfel gyda ymosodiad Siapan ar Tsieina ym 1937. Parhaodd y rhyfel yn Asia a'r Môr Tawel tan i Siapan ildio ar yr 2 Medi, 1945.
[golygu] Y Rhyfel yn Môr y Canoldir a Gogledd Affrica
[golygu] Effeithiau'r Rhyfel
O ganlyniad i'r rhyfel hon daeth arwahanrwyddiaeth yr Unol Daleithiau i ben, ail-adeiladwyd yr Almaen a Siapan fel gwledydd diwydiannol pwysig iawn, daeth yr Unol Daleithiau a'r Undeb Sofietaidd yn ddwy wladwriaeth gorbwerus byd-eang, a sefydlwyd y Cenhedloedd Unedig er mwyn ceisio rhwystro rhyfel byd yn y dyfodol.