Y Llyfr Du o'r Waun
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Llawysgrif a ysgrifenwyd ar femrwn yng Ngwynedd (yn Arfon efallai) tua chanol y 13eg ganrif yw'r Llyfr Du o'r Waun (Peniarth 29) (Saesneg Black Book of Chirk). Mae'n cynnwys y testun Cymraeg hynaf o'r Cyfreithiau Cymraeg (Cyfreithiau Hywel Dda) a adweinir fel Fersiwn Llyfr Iorwerth. At y testun hwnnw ychwanegwyd marwnad i'r Tywysog Llywelyn ap Gruffudd a rhestr o ddiharebion Cymraeg. Ceir hefyd nodyn dyddiedig 1608 gan yr ysgolhaig Syr Thomas Wiliems. Roedd y llawysgrif yn eiddo i John Edwards o'r Waun ar ddechrau'r 17eg ganrif.
Mae'r llawysgrif yn adnabyddus am unigrwydd ei orgraff. Mae hyn wedi arwain rhai ysgolheigion (megis Morgan Watkin) i awgrymu iddi gael ei chopïo gan ysgrifennydd Eingl-Normanaidd nad oedd yn medru'r Gymraeg yn ddigonol, neu gan ysgrifennydd oedd yn gyfarwydd â thraddodiadau orgraff Ffrangeg Normanaidd yn unig. Tueddir heddiw (yn dilyn Russell) i briodoli hynodrwydd yr orgraff i ffynhonell Hen Gymraeg oedd yn defnyddio confensiynau sillafu ceidwadol.
[golygu] Llyfryddiaeth
[golygu] Y testun
- J. Gwenogvryn Evans (gol.), The Chirk Codex. Facsimile of the Chirk Codex of the Welsh Laws (argraffiad ffacsimili) (Llanbedrog, 1909).
[golygu] Llenyddiaeth eilradd
- Russell, Paul. Scribal (in)competence in thirteenth-century north Wales: The orthography of the Black Book of Chirk (Peniarth ms. 29). Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru 29 (1995): 129–76.
- Watkin, Morgan. The Black Book of Chirk and the Orthographia Gallica Anglicana: The chronology of the Black Book of Chirk on the basis of its Old French graphical phenomena. Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru 14 (1966): 351–60.