Y Grib Goch
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mynydd yn Eryri wedi ei ffurfio trwy effaith rhewlifau yw Crib Goch (923m).
Mae llwybr o Ben-y-Pass dros Garnedd Ugain i'r Wyddfa ar gefn cul y mynydd, a gellir gweld Glaslyn a Llyn Llydaw yn ogystal â Phen y Pas o'r mynydd. Beth bynnag, mae'n ddigon peryglus ar y grib am fod y gwynt yn gryf fel arfer.
Ym 1974 darganfuwyd Powlen yr Wyddfa, powlen efydd o'r Oes Haearn ar Grib Goch.
[golygu] Y Grib Goch
Ysgrifennodd Thomas Rowland Hughes gerdd ynglŷn â'r grib. Mae'n annerch y darllenydd: "Gwaedda - " a thrwy hynny'n sylwi mor fach yw pobl o'u cymharu â mawredd y mynyddoedd.