Y diwylliant Hallstatt
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Enwyd y diwylliant Hallstatt ar ôl Hallstatt, pentref yn ardal Salzkammergut yn Awstria lle darganfuwyd mwynwent gynhanesiol enfawr oedd yn cynnwys 1045 o feddau. Fe'i darganfuwyd gan Ramsauer yn hanner olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd y bobl yn Hallstatt yn cloddio am halen o'r wythfed ganrif Cyn Crist hyd y pumed ganrif Cyn Crist. Mae arddull y nwyddau yn y beddau yn nodedig iawn a darganfuwyd pethau o'r un arddull ledled Ewrop.
Rhennir diwylliant Hallstatt yn un dwyreinol sydd yn cynnwys Croatia, Slofenia, gorllewin Hwngari, Awstria, Morafia, a Slofacia, sy'n wahanol iawn i'r un gorllewinol sydd yn cynnwys yr Eidal, y Swistir, dwyrain Ffrainc, de yr Almaen, a Bohemia. Ond roedd diwylliant yn newid dros y ganrifoedd, ac hefyd o ganlyniad yr arfau, y crochenwaith a'r tlysau.
Gyda newidiadau mewn dulliau a symudiad poblogaeth ehangodd y diwylliant Hallstatt tua'r gorllewin: Penrhyn Iberia, Prydain ac Iwerddon. Mae'n debyg i o leiaf rhan o'r ymlediad hwn gael ei wneud gan bobl oedd yn siarad ieithoedd Celtaidd. Darganfuwyd crochenwaith du o Attica mewn beddau Hallstatt sy'n tystio i fasnach rhwng Gwlad Groeg a'r ardal Hallstatt, trwy Marseille, mae'n debyg. Nwyddau eraill a fewnforiwyd oedd ifori ac (efallai) gwin.
Yn yr ardalodd Hallstatt canolig adeiladwyd beddau moethus iawn tua un cyfnod. Claddwyd unigolion o statws uchel o dan twmwli enfawr ger bryngaerau. Roedd llawer o'r beddau yn cynnwys cerbydau rhyfel a ieuau ceffyllau, er enghraift yn Bycí Skalá, Vix a Hochdorf, ond mae enghraifftiau yn Swydd Efrog yn Lloegr hefyd. Darganfuwyd model o gerbyd rhyfel wedi ei wneud o blwm mewn bedd yn Frögg, Carinthia.
Fel arfer, mae gweithdai gofaint efydd, arian ac aur yng ngaerau'r cyfnod, er enghraifft yn yr Heuneburg ar afon Donwy, Mont Lassois ger Chatillon-sur-Seine yn nwyrain Ffrainc ac yn Molpir yn y Weriniaeth Tsiec.
Mae celfyddyd y cyfnod yn cynnwys gemwaith wedi ei gwneud o efydd ac aur a cherfluniau wedi eu gwneud o garreg.
[golygu] Ffynhonnell y testun Saesneg wreiddiol
- Vierrädrige Wagen der Hallstattzeit. RGZM Mainz, 1987.