Wenglish
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Wenglish fel arfer yn cyfeirio at y tafodieithoedd o Saesneg a siaredir yn y De. Mae dylanwad gramadeg a geirfa'r Gymraeg yn drwm arni, ac mae'n cynnwys nifer o eiriau unigryw.
Mae John Edwards wedi ysgrifennu'n ddifyr iawn am Saesneg y Cymoedd. Mae rhai pobl, yn enwedig pobl y tu allan i Gymru, yn defnyddio Wenglish i gyfeirio at bob ffurf ar Saesneg a siaredir yng Nghymru.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Ynganiad a Nodweddion
Dyma rai o nodweddion Wenglish sy'n ei gwneud yn wahanol i Saesneg 'safonol':
- Gwahaniaethau mawr o ran traw sy'n rhoi'r effaith "canu".
- Gwneud llafariaid yn hir, yn enwedig yn acenion Cymoedd y De e.e Vaaalleys.
- Gwahaniaethu wrth ynganu rhwng y parau canlynol rude a rood, threw a through, chews a choose, chute a shoot.
- Seinio year, here a ear yr un peth.
- Ynganu -ng ar ddiwedd berfau yn -in e.e. Singin I was.
- Colli 'h-' ddechreuol e.e. 'E's 'ell uv a good shaag, mind!
- Defnydd mynych o eiriau llanw fel like.
[golygu] Dylanwad y Gymraeg
- Tueddiad i rolio 'r'.
- Geirfa, fel cwtsh, didoreth, as diflas as pechod!
- Blaenu i ddangos pwyslais fel It's Brains you want , Jokin' I was, mun, Bad in bed under the doctor I was
- Cyfieithu ymadroddion o'r Gymraeg e.e. There's lovely it is (< Dyna hyfryd yw e) a keep the dishes (< cadw'r llestri), loose the bus (< colli'r bws), rise a ticket (< codi tocyn).
- Defnydd o is it? ar ddiwedd brawddeg e.e. Goin' shoppin', is it? (< Mynd i siopa, ife?)
[golygu] Dylanwad y Saesneg
- Mae'n debyg bod yr ymadrodd where to? e.e. Where's 'e to?, neu Where to's tha' then? yn dod o Saesneg Gwlad yr Haf.
- Daw daps (esgidiau dal adar!) o'r tu draw i afon Hafren hefyd
[golygu] Dolenni allanol
- Talk Tidy:John Edwards, bathwr/poblogeiddiwr y term "Wenglish" a'i lyfrau a CDau ar y pwnc.
- Some thoughts and notes on the English of south Wales : D Parry-Jones, National Library of Wales journal 1974 Winter, volume XVIII/4
- Samples of Welsh Dialect(s)/Accent(s)
- BBC Voices: Recordiadau o Saesneg yn cael ei siarad gan Gymry mewn gwahanol rannau o'r wlad.