W thant
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Y cyntaf o don o grwpiau Cymraeg Caerdydd yng nghanol yr 1980au oedd W thant. Sefydlwyd y grŵp gan ddisgyblion Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Roedd eu hanner yn rhan o'r flwyddyn gyntaf i fynychu ysgol uwchradd Gymraeg cyntaf Caerdydd. Enwyd y grwp ar ôl cyn-Ysgrifennydd Cyffredinnol y Cenhedloedd Unedig, U Thant, mae'n siwr, gan fod y Cenhedloedd Unedig yn rhan o gwrs Hanes Lefel O y cyfnod.
Chwaraent gerddoriaeth pyncaidd a bywiog ac roedd eu perfformiadau byw gyda'u canwr blaen carismataidd, Rhys Pys (Rhys Boore) yn denu dilyniant brwd o fewn Caerdydd a thu hwnt. Esgorodd eu llwyddiant hefyd ar ymateb chwyrn yn eu herbyn yn enwedig y tu allan i Gaerdydd. Un ffenomenon bwysig o gylch Ŵ Thant oedd 'Dynion y Nos' - grwpis a fyddai'n dynwared y grŵp drwy wisgo jîns glas wedi eu torri uwch y pen-glun, sgidiau suede du, crys-t W Thant ac, o tua 1985 ymlaen, steil gwallt y 'flat-top'.
Roedd llwyddiant W Thant yn sylfaen ac yn ysbrydoliaeth i sefydlu nifer o grwpiau eraill o Gaerdydd o'r un cyfnod gan gynnwys, Edrych am Jiwlia, Y Crumblowers, Hanner Pei, Bili Clin a Cofion Ralgex.