Teiffŵn
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Corwynt trofannol yng ngorllewin y Môr Tawel ac yn nwyrain Asia yw Teiffŵn (o'r Siapanaeg 台風 taifu neu'r Tsieinëeg 台风 tai fung: gwynt mawr). Fel arfer, adeg yr haf neu'r hydref cynnar y cwyd teiffwnau. Yn ôl diffiniad Japanaidd mae cyflymder y gwynt mewn teiffŵn o leiaf yn 34 not (17.2m/s), ond does dim diffiniad rhyngwladol o teiffŵn yn bod.
Mae teiffwnau yn codi mewn ardaloedd sydd i'r gogledd o'r cyhydedd a ger Tseina neu Indonesia ac yna'n symud i'r gogledd-orllewin, tua Fiet-nam, y Pilipinas neu tir mawr Tseina, ond mae'r teiffwnau nad ydynt yn cyrraedd y tir mawr yn symud tua'r gogledd-ddwyrain tuag at Corea neu Siapan.
Mae teiffŵn yn achosi llifogydd a gwyntoedd cryfion a felly yn achosi llawer o niwed i'r gwledydd sydd yn ei lwybr, ac weithiau yn lladd cannoedd o bobl.