Marilyn Monroe
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Roedd Marilyn Monroe, neu Norma Jeane Mortenson (1 Mehefin, 1926 - 5 Awst, 1962), yn actores eiconaidd, cantores a model, a anwyd yn Los Angeles, yn yr UDA.
Hyd y dwthwn hwn mae hi'n un o'r enwocaf o sêr ffilm, symbolau rhyw ac eiconau pop yr 20fed ganrif.
Ar ôl actio rhannau bach mewn ffilmiau am rai blynyddoedd daeth i gael ei hadnabod yn raddol am ei doniau digrifol, ei hapêl rywiol a'i phresenoldeb arbennig ar y sgrîn fawr. Tyfodd i fod yn un o'r actorion Hollywood mwyaf poblogaidd yn y 1950au. Yn ddiweddarach yn ei gyrfa chwareuodd rannau mwy difrifol gyda rhwy fesur o lwyddiant.
Yn ddiweddarach, fodd bynnag, llesteiriwyd ei gyrfa gan broblemau hir-dymor a siomedigaethau yn ei gyrfa actorol a'i bywyd personol. Bu farw mewn amgylchiadau amheus yn 1962, yn 35 oed.
[golygu] Cysylltiadau allanol
- [[1]] Gwefan swyddogol Marilyn Monroe
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu iddi dyfu.