Sgwrs Defnyddiwr:Garik
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Croeso i'r wicipedia! Marnanel 03:31, 30 Ebrill 2006 (UTC)
[golygu] Peter Greenaway
Mae'n dda gweld rhywun arall yn ymuno â chriw y wicipedia Cymraeg ac yn ysgrifennu erthygl hir. Mwynheais ddarllen hanes Peter Greenaway yn fawr iawn. Roedd na ddau fan lle nad oeddwn yn siwr beth oeddech yn ceisio ei gyfleu. Yn gyntaf rydych yn sôn am 'gread ac adfeiliad'. Yn ôl geiriadur y BBC 'disrepair' yw ystyr adfeiliad. Ai dadfeiliad (decay) oedd ganddoch mewn golwg? Ac ai'r broses o greu a dadfeilio oeddech yn meddwl amdanynt? Os felly y berfenwau creu a dadfeilio sy'n creu'r ystyr hon yn Gymraeg. Yn ail, ystyr 'adeiladaeth' yn ôl geiriadur y BBC yw 'edification'. Ai hyn oedd ganddoch mewn golwg?
Rwyf wedi mentro diwygio peth ar ramadeg yr erthygl. Sylwais eich bod wedi ysgrifennu'n lled anffurfiol. Gan fy mod yn rhy hen i fod wedi cael dysgu'r ysgrifennu llai ffurfiol modern yma yn yr ysgol mae'n bosib fy mod wedi newid rhai pethau sydd yn cael eu derbyn mewn ysgrifennu anffurfiol - os do nid o fwriad y wnes i hynny! Lloffiwr 22:58, 30 Ebrill 2006 (UTC)
- Mae'n ddrwg gennyf fod cyhyd yn ymateb i'ch cwestiwn. Rwy’n meddwl bod arddull ffurfiol yn fwy addas ar gyfer arddull erthyglau Wicipedia nag yw Cymraeg anffurfiol, ond iddi beidio â bod yn Gymraeg rhy hen-ffasiwn chwaith! (Camsyniad yw hi yn fy marn i i feddwl bod arddull anffurfiol yn haws i'w ddarllen nac arddull ffurfiol, nac yn eglurach, nac ychwaith y bydd yn denu darllenwyr at y Wicipedia. Cywirdeb ac eglurder sydd ei angen ar wyddoniadur effeithiol.) Wedi'r cwbl, creu gwyddoniadur safonol yw'r nod serch mai gwirfoddolwyr sydd wrthi.
- O'm rhan i, cael blas ar yr ymchwilio a'r ysgrifennu sydd bwysicaf ond mae cynhyrchu rhywbeth a graen arno fe bron cyn bwysiced i mi â'r blas at y gwaith, wedi mynd. Felly os cwyd chwant arnoch i ddiwygio'r erthygl a'i wneud yn gyson ffurfiol drwyddi draw yna byddwn yn eich annog i wneud. Pan fyddai'n ysgrifennu rhyw bwt ar gyfer Wicipedia byddaf weithiau'n mynd nôl at yr erthygl wedi rhyw wythnos neu ddwy i'w hail-ddarllen ac i gadarnhau ei fod yn eglur. Bydda'i fel arfer yn creu erthygl ar Word yn gyntaf fel bod cyfle i wirio'r drafft cyn ei gopïo i Wicipedia (mae'r rhaglen Cysill gennyf hefyd sy'n gwneud pethau'n haws). Hyd yn oed wedyn mae camgymeriadau yn aros!
- Dyna beth sydd angen arnom yw rhagor o bobl i adolygu a diwygio gwaith ein gilydd fel sydd ar y Wicipedia Saesneg ond dyna fe – criw bach iawn ydym ar y Wicipedia Cymraeg hyd yn hyn.Lloffiwr 22:42, 13 Mai 2006 (UTC)
-
- Rydych wedi bod yn ddiwyd! Mae un peth bach yn dal i 'mhoeni.
-
- Rwyn credu nad oes angen y fannod pan fydd enw priod wedi ei fynegi yn y modd genidol, h.y. 'enw cyntaf' yn perthyn i 'ail enw', megis 'Undeb Ewrop', yr Undeb y mae Ewrop berchen arni ('The Union of Europe'). Felly hefyd 'Llyfrgell Genedlaethol Cymru' a 'Llysgennad Prydain'.
-
- Mae angen y fannod os yw'r teitl yn gyfuniad o enw ac ansoddair neu enw arall sy'n disgrifio'r enw cyntaf. e.e. 'Yr Undeb Ewropeaidd' ('The European Union'), 'Y Llysgennad Prydeinig', 'Y Llyfrgell Genedlaethol'. Mae angen y fannod i ddangos mai peth penodol a drafodir yn hytrach na rhywbeth amhenodol, h.y. yr Undeb Ewropeaidd, nid unrhyw undeb Ewropeaidd.
-
- Felly rwyn credu bod angen y fannod lle sonnir am 'y Swyddfa Gwybodaeth Ganolog' gan mae enw ac ansoddair yn disgrifio Swyddfa benodol yw Gwybodaeth Ganolog.
-
- Rwyn edrych ymlaen at gael darllen rhagor o'ch gwaith yn y dyfodol. Lloffiwr 22:16, 15 Mai 2006 (UTC)
Mae hyn yn gwestiwn diddorol, ac mae'n ymwneud hefyd, yn fy marn i, â'r gwahaniaeth rhwng siop flodau dda a siop blodau da. Felly, tybiwn i mai 'Y Swyddfa Wybodaeth Ganolog' sydd yn iawn. Ydych chi'n cytuno? Garik 18:40, 30 Mai 2006 (UTC)
- Odw (ydw) - ac ni sylwais am yr angen am dreiglad wedi Swyddfa! Yn wir, rydych wedi panso wrth yr erthygl. (O'i gyfieithu o Gymrâg Ceredigion - Rydych wedi ymdrafferthu/cymryd gofal â'r erthygl hon) Lloffiwr 19:52, 30 Mai 2006 (UTC)
[golygu] Katowice
Hello.I'm wikipedia redactor form Poland. I have a one question. Could You make translation article about en:Katovice into Your native language? Just a few sentences. There is a source in English and in a few other languages in interwiki. Katowice is a one of the major cities of Poland. Please do it.
Best Regards Stimoroll[[[pl:Dyskusja_Wykipedysty:Stimoroll|Talk]]
We haven't even done all of our own towns and cities properly yet... Emyr42 10:12, 16 Mai 2006 (UTC)