Gŵydd Ddu
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Gŵydd Ddu | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Dosbarthiad biolegol | ||||||||||||||
|
||||||||||||||
Enw deuenwol | ||||||||||||||
Branta bernicla Linnaeus, 1758 |
Mae'r Ŵydd Ddu (Branta bernicla) yn ŵydd o'r genws Branta. Mae'n ŵydd weddol fychan, tua 60 cm o hyd, gyda cynffon fer.
Mae tair is-rywogaeth o'r Ŵydd Ddu:
- Gŵydd Ddu Fol-dywyll Branta bernicla bernicla
- Gŵydd Ddu Fol-olau Branta bernicla hrota
- Branta bernicla nigricans
Gellir adnabod yr Ŵydd Ddu Fol-dywyll (a ddangosir yn y llun) trwy nad oes llawer o wahaniaeth lliw rhwng y pen, y cefn a'r ystlys a'r bol, er fod yr ystlys a'r bol ychydig yn oleuach. Mae darn bach gwyn ar ocht y gwddf. Mae'r is-rywogaeth yma yn nythu yng ngogledd Siberia ac yn treulio'r gaeaf yng ngorllwein {[Ewrop]], gyda'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yn ne Lloegr a'r rhan fwyaf o'r gweddill yng ngogledd Yr Almaen a gogledd Ffrainc. Mae niferoedd llai, ychydig o gannoedd, yn gaeafu yng Nghymru, y rhan fwyaf ar arfordir y de.
Mae'r Ŵydd Ddu Fol-olau yn edrych yn llawer goleuach, gyda gwahaniaeth mawr rhwng y pen a'r gwddf, sy'n ddu, a'r ystlys a'r bol sy'n llwyd golau iawn. Mae'r math yma yn nythu yn y gorllewin, yn enwedig gogledd Canada a'r ynysoedd o gwmpas. Mae'n gaeafu yn Iwerddon, Denmarc ac ar hyd arfordir dwyreiniol Unol Daleithiau merica. Ar un adeg yr oedd yr is-rywogaeth yma yn bur brin yng Nghymru ond mae'r nifer sy'n gaeafu yma wedi cynyddu'n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, yn y gogledd yn bennaf, a gellir gweld heidiau o hyd at 150 ar Ynys Môn.
Fel rheol mae'n treulio'r gaeaf ar yr arfordir, lle mae'n bwydo ar y planhigyn [[Zostera marina]] a math o wymon y môr, Ulva. Yn ddiweddar mae wedi dechrau bwydo ar gaeau hefyd, efallai oherwydd fod poblogaeth yr ŵydd yma wedi cynyddu'n sylweddol iawn dros yr ugain mlynedd diwethaf.