Frizbee
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Band roc Cymraeg o Flaenau Ffestiniog yw Frizbee. Ei aelodau yw Ywain Gwynedd (llais a gitâr), Owain Jones (llais a bass) a Jason Hughes (llais a drymiau). Maen nhw wedi rhyddhau tair CD: Hirnos (2004), Lennonogiaeth (2004) a Pendraw'r Byd (2006). Enillasant ddwy wobr Roc a Phop Radio Cymru 2005, un ar gyfer y grŵp a ddaeth i amlygrwydd yn ystod 2004 ac hefyd gwobr artist pop y flwyddyn.