Egni gwynt
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Llif yr aer yn yr atmosffer yw egni gwynt, fel arfer o ganlyniad i'r tywydd neu gyflwr daearegol. Mae rhai yn ei ystyried fel egni'r haul am fod y gwynt yn cael ei achosi gan dymheredd cyfnewidiol yn yr atmosffer o ganlyniad i wres yr haul. Defnyddir fel fynhonell egni cynaliadwy.
Dydy'r haul ddim yn disgleirio cyn gryfed ym mhobman: mae'n newid fel y mae'r dydd yn troi yn nos a'r nos yn troi'n ddydd, mae'r haul yn disgleirio'n gryf drwy'r flwyddyn ger y cyhydedd, ond nid felly ger Pegwn y De a Pegwn y Gogledd lle mae'n oer a'r nos yn para am hanner blwyddyn. Ac felly mae'r aer poeth yn gwasgaru ac mae'r gwasgedd aer yn wahanol ym mhobman.
Ond ar wahân i'r gwahaniaeth tymheredd byd-eang mae gwahaniaeth tymheredd lleol, hefyd. Er enghraifft mae'r tir yn poethi yng nghynt na'r môr yn ystod y dydd ac felly mae'r gwynt yn chwythu o'r môr i'r tir. Yn ystod y nos, mae'r tir yn oeri yng nghynt na'r môr a mae'r gwynt yn chwythu o'r tir i'r môr.
Mae dyn yn defnyddio egni gwynt ers ganrifoedd: er mwyn teithio ar longau hwylio neu mewn balŵn neu er mwyn ei helpu gyda'i waith, er enghraifft melynau gwynt i bwmpio dŵr neu i wneud blawd.
Ers rhai blynyddoedd defnyddir egni gwynt i gynhyrchu trydan hefyd. I wneud hynny, mae angen tyrbin gwynt. Fel arfer mae llawer o dyrbinau gwynt yn ffermydd gwynt, llawer ohonyn nhw yn y môr neu ar arfordir.