Cyngen ap Cadell
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Roedd Cyngen ap Cadell (bu farw 855) yn frenin Powys.
Yr oedd Cyngen o linach Brochwel Ysgithrog ac ar ôl teyrnasiad maith fel brenin Powys aeth ar bererindod i Rufain a bu farw yno yn 855. Credir mai ef oedd y cyntaf o frehinoedd Cymru i ymweld â Rhufain ers i'r rhan Gymreig o'r Eglwys Geltaidd gytuno i gydymffurfio ag Eglwys Rhufain a'r Pab ynglyn â dyddiad y Pasg.
Cododd Cyngen golofn er côf am ei daid Elisedd ap Gwylog sydd i'w gweld yn agos at abaty diweddarach Glyn y Groes. Adnabyddir y golofn fel Colofn Eliseg oherwydd camgymeriad gan y sawl oedd yn cerfio'r arysgrif.
Cyngen oedd yr olaf o linach brenhinoedd gwreiddiol Powys. Yr oedd ganddo dri mab, on pan fu farw cipiwyd Powys gan Rhodri Mawr, brenin Gwynedd oedd yn ei hawlio gan ei fod yn fab i Nest, chwaer Cyngen.
[golygu] Cyfeiriadau
John Edward Lloyd (1911) A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.)