Castell Talacharn
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Castell yn nhref Talacharn, Sir Gaerfyrddin yw Castell Talacharn ar aber Afon Taf. Adeiladwyd castell ar y safle yn gynnar yn y 12fed ganrif fel gwrthglawdd gan y Normaniaid. Cipiwyd gan Rhys ap Gruffydd yn 1189, ac fe'i dinistriwyd gan Lywelyn ap Gruffydd yn 1215. Mae adfeilion presennol y castell yn dyddio o ddiwedd y 13eg ganrif, pryd adadeiladwyd caer carreg gan y teulu Eingl-Normanaidd de Brian. Fe'i trawsffurfiwyd yn fanordy cyfforddus gan Syr John Perrot yn chwarter olaf y 16eg ganrif. Ar ôl marwolaeth Perrot yn 1592, dirywiodd y castell yn gyflym. Distrywiwyd yn rhannol yn ystod y Rhyfel Cartref.