Castell Llansteffan
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Codwyd Castell Llansteffan gan y Normaniaid yn gynnar yn y 1100au.
Cipiwyd y castell yn 1146, yn ôl Brut y Tywysogion, gan y Tywysog Maredudd ap Gruffudd ap Rhys ap Tewdwr a'i frawd Cadell ap Gruffudd. Ceisiodd llu o Normaniaid a Fflemingiaid o dde Penfro adennill y castell ond fe'u gorchfygwyd gan y Cymry ar ôl iddynt amddiffyn y castell ac wedyn gwrthymosod ar y gelyn.
Yr oedd y castell yn ôl ym meddiant y Normaniaid erbyn 1158.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu iddi dyfu.