Castell Dinas Brân
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Castell Dinas Brân yn fryngaer ac yn gastell canoloesol ger Llangollen, Sir Ddinbych.
Saif y castell ar gopa mynydd uwchlaw dyffryn Dyfrdwy (maint yr safle: tua 1.5ha). Clawdd a ffos wedi eu hadeiladu yn Oes yr Haearn yw'r unig olion sydd i'w gweld heddiw. Mae'n bosibl bod adeiladau pren yn y bryngaer yn yr 8fed ganrif, ond does dim olion ohonynt heddiw. Mae yna ddamcaniaeth fod Eliseg yn meddianu Castell Dinas Brân yn y cyfnod hwnnw.
Adeiladodd tywysogion Powys Fadog y castell tua diwedd y 1260au. Cafodd ei losgu gan y Cymry yn ystod y rhyfeloedd rhwng Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru ac Edward I, brenin LLoegr. Cafodd y castell ei gipio gan Henry de Lacey, iarll Lincoln, yn 1277. Bwriadai Henry de Lacey ailadeiladu'r castell, ond doedd Edward ddim yn cytuno.
Ym 1282, yn ystod ail ymgyrch Edward I i Gymru, cafodd Castell Dinas Brân ei meddianu gan Dafydd ap Gruffydd, brawd Llywelyn. Yn 1402 cafodd y castell eu medianu gan Iarll Arundel; ymgeisodd Owain Glyndŵr ei gipio, ond roedd ei ymdrechion yn aflwyddianus.
Yn ôl rhai ysgrifenwyr ar y traddodiad Arthuraidd, Dinas Brân yw'r Castell Corbenic (Corbin-Vicus) y sonnir amdano yn y chwedlau am y Greal.