Ankara
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Prif ddinas Twrci a'r ddinas ail fwyaf yn y wlad honno yw Ankara (hefyd: Ancara; hen enwau Angora ac Ancyra), sy'n brif ddinas Talaith Ankara yn ogystal. Ym 2003 roedd tua 3,582,000 o bobl yn byw yn y ddinas. Ankara yw canolfan masnach a diwydiant bwysicaf yr wlad ond cyn ei dyfod yn brif ddinas roedd hi'n enwog yn bennaf am ei gafrau blew hir ynghyd â'r gwlân arbennig a geir ohonynt, sef gwlân Angora.
Cafodd ei chodi yng nghanol ucheldir Anatolia ac mae'n groesffordd cludiant bwysig iawn i ffyrdd a'r rheilffyrdd fel ei gilydd. Prifysgolion y ddinas yw Prifysgol Technoleg y Dwyrain Canol (Middle East Technical University; METU), Prifysgol Hacettepe, Prifysgol Bilkent a Phrifysgol Ankara ei hun. Mae Llyfrgell Genedlaethol y wlad a'r Amgueddfa Ddaearegol i'w cael yn Ankara yn ogystal.
Ers y dewiswyd hi fel prifddinas Twrci gan Kemal Atatürk, mae'r ddinas wedi datblygu ac erbyn hyn mae'n cynnwys hen ardal o'r enw Ulus ynghyd ag ardal newydd o'r enw Yenisehir. Mae adeiladau Rhufeinig, Bysantaidd ac Ottoman yn y strydoedd cul yn yr hen chwarter, a cheir gwestai mawr, theatrau, canolfannau siopio ac ati yn yr ardal newydd. Mae senedd y wlad a swyddfeydd y llywodraeth, ynghyd â llysgenhedaethau gwledydd tramor i'w cael yn yr ardal newydd hefyd.